DCSIMG Patagonia 150 – Yr Arddangosfa Ffotograffiaeth | Patagonia 150

Patagonia 150 – Yr Arddangosfa Ffotograffiaeth

Digwyddiad wedi ei gynnal

21/11/2015 - 30/01/2016

Lleoliad: St David's Hall, The Hayes, Cardiff, Cymru / Y D. G.

Pris:  £0

Bydd arddangosfa o 62 o ffotograffau yn dathlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan un o brif ffotograffwyr yr Ariannin, Marcos Zimmermann. Mae’r lluniau’n dangos pobl leol, yn cynnwys disgynyddion yr ymfudwyr cyntaf o Gymru, yn eu cartrefi, yn gweithio ac yn hamddena, ynghyd â golygfeydd trawiadol. Comisiynwyd yr arddangosfa gan Lysgenhadaeth yr Arianin yn Llundain i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r wladfa Gymreig yn yr Ariannin. 

Mae’r arddangosfa ar agor 10yb -4yp, dydd Llun tan ddydd Sadwrn, hefyd ar nosweithiau ac ar y Suliau (os oes cyngerdd ymlaen)

Ffotograffiaeth © Marcos Zimmermann. Cedwir pob hawl.
Mae’r arddangosfa hon ar fenthyg trwy garedigrwydd Llysgenhadaeth yr Ariannin.