DCSIMG Breuddwydio am Batagonia | Patagonia 150

Breuddwydio am Batagonia

20/05/2015

Mae Steph Davies, o Aberteifi, Gorllewin Cymru, yn dweud ei hanes wrthym am sut y bu iddi wireddu ei breuddwyd o fynd ar daith i Batagonia i gwrdd â disgynyddion Cymreig (a'u cyfweld) ar gyfer Prosiect Hiraeth.

Yn ystod haf 2013, penderfynais roi'r gorau i'm swydd.

Roedd gennyf swydd wych gydag asiantaeth greadigol, ond roedd gennyf syniad na allwn gael gwared arno. Roeddwn eisiau mynd i Batagonia am rai misoedd i ddarganfod mwy am y Wladfa. 

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, cafodd unigolion yng Nghymru eu hysbrydoli gan y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig. Roeddent am adael am nifer o resymau; i ddianc rhag tlodi, er mwyn cael rhyddid crefyddol, ac i sefydlu gwlad newydd lle y gallai'r Gymraeg weithredu fel iaith crefydd, y llywodraeth, masnach ac addysg. Nid oedd hyn yn bosibl yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, gan fod Cymru'n raddol yn cael ei meddiannu gan Loegr. 

Ar 28 Mai 1865, gadawodd 153 o ddynion a gwragedd o Gymru ar daith at fywyd newydd ym Mhatagonia yn yr Ariannin er mwyn achub yr hyn yr oeddynt yn credu ynddo ac i ddal gafael arno; eu crefydd, eu hiaith a oedd yn marw a'u diwylliant.

​Roeddwn eisiau crwydro o amgylch y Wladfa a chofnodi a dathlu eu hanes. Roedd dathliad 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia yn agosáu, ac felly roedd yn ymddangos fel yr amser perffaith i wneud y daith hon. 

Un noson o haf yn 2013, penderfynais ei bod yn bryd i mi roi'r gorau i siarad am fy syniad o ymchwilio disgynyddion y Cymry ym Mhatagonia, a gwneud rhywbeth amdano. Rhoddais y gorau i'm swydd o'r diwedd. 

Alla i ddim deall yn iawn pam na wnes i hyn yn gynt. Wel, gallaf...roedd ofn arna i, doedd dim syniad gennyf beth oeddwn yn ei wneud -  doeddwn i ddim hyd yn oed yn nabod neb ym Mhatagonia, ond roedd yn rhaid i mi wneud i'r peth weithio. Dechreuais fod yn hunangyflogedig er mwyn ennill arian tra'n gweithio'n ddi-dâl ar Brosiect Hiraeth. Symudais allan o'm tŷ ac arhosais gyda ffrindiau gan fyw allan o gês dillad bach am saith mis er mwyn arbed arian. 

Doedd hi ddim yn hawdd, ond bues i'n ffodus gan na fu'r pethau bach negyddol yn ddim o'u cymharu â'r pethau arbennig o gadarnhaol a brofais. 

​Roedd y pwyntiau isel yn cynnwys Kickstarter yn gwrthod cymeradwyo Prosiect Hiraeth y tro cyntaf, y Cyngor Celfyddydau yn gwrthod rhoi arian, dysgu fy hun sut i weithio ar fy mhen fy hun, brandiau a busnesau yn torri addewidion, y straen o ddibynnu ar ffafr ar ôl ffafr gan fy ffrindiau a'm teulu anhygoel. 

Doedd y trafferthion bach hyn yn ddim o'u cymharu â'r uchafbwyntiau o oedd yn cynnwys tynhau Prosiect Hiraeth a llwyddo i'w gael ar Kickstarter - yna cyrraedd fy nod Kickstarter, ailymgeisio am gyllid gan y Cyngor Celfyddydau a'i dderbyn, cael gwahoddiad gan TED i siarad yn ystod eu digwyddiad yn 2014 (yn anffodus roeddwn ym Mhatagonia bryd hynny) ac ysgrifennu erthygl ar gyfer cylchlythyr TEDx Ysgol Fusnes Llundain yn 2014. Derbyniodd Prosiect Hiraeth lawer o sylw a chefnogaeth yn y wasg gan gynnwys cyfweliadau ar Radio Wales, a chefnogaeth gan y Pwyllgor Materion Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r British Council. 

Ym mis Mawrth 2014, cyrhaeddais Batagonia. Es ati i gyfweld a ffilmio 40 o wahanol bobl yn y gymuned yn yr Andes ac yn Nyffryn Camwy; pob un â chysylltiad Cymreig, o wahanol gefndiroedd a phob un â stori wahanol i'w hadrodd. Dychwelais i Gymru gyda dros 40 awr o ffilm a llawer o storïau. Golygwyd y ffilmiau a gwnaed darluniau i gyd fynd â'r storïau. 

Yn ystod yr hydref yn 2014, cafodd gwaith ymchwil y prosiect ei ddefnyddio ar gyfer adroddiadau Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer Cynulliad Cymru ac ar ddiwedd 2014 a dechrau 2015, gweithiais gyda thîm ffantastig i greu gwefan. 

Mae gwefan Prosiect Hiraeth yn datgelu hanes rhyfeddol y profiad Cymreig ym Mhatagonia i gyd-fynd â dathlu 150 o flynyddoedd ers y fordaith honno. Mae'r wefan yn galluogi eraill i archwilio hanes y Patagonia Cymreig a phori drwy gasgliad mawr o storïau o'r Patagonia Cymreig - drwy gyfrwng testun, ffilmiau a darluniadau. Aeth y wefan yn fyw ym mis Mawrth 2015. 

Ym mis Chwefror 2015 gofynnwyd i mi ysgrifennu a chyhoeddi llyfr o storïau o'r Wladfa ym Mhatagonia - caiff hwn ei argraffu ym mis Medi 2015. 

Beth nesaf? Byddaf yn gweithio gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig ar arddangosfa yn ystod mis Gorffennaf, rwyf wedi cael gwahoddiad i siarad yn ystod Gŵyl Lyfrau PenFro ym mis Medi a hoffwn weld ysgolion yng Nghymru a Phatagonia yn defnyddio'r wefan fel adnodd. Heblaw am hyn, rwy'n hoffi atgoffa fy hun pa mor lwcus ydw i fy mod yn gwneud yr union beth yr oeddwn yn breuddwydio am ei wneud pan oeddwn yn eistedd yn y swyddfa honno. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd â phrosiect neu syniad y dymunant ei wireddu. Yn union fel y gwnaeth y Cymry hynny pan wnaethant hwylio draw i Batagonia.

Ewch i wefan Prosiect-Hiraeth

Lluniau isod gan Lucy Burns

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Oriel lluniau